Amgueddfa Lloyd George

portmeirion-1

Dewch i ddarganfod bywyd ac amseroedd Lloyd George. Bachgen wedi’i fagu mewn bwthyn a ddaeth yn Brif Weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe dyfodd i fyny ym mwthyn Highgate ym mhentref prydferth Llanystumdwy. Mae’r bwthyn hwnnw, a gweithdy crydd y pentref, wedi cael ei ail greu fel y byddai pan oedd ef yn byw yno, yn 1864-1880. Yn yr Amgueddfa, gallwch fwynhau ffilm yn y theatr am ei fywyd, gweld Lloyd George yn dod yn fyw trwy’r “pen sy’n siarad” a darganfod y casgliadau unigryw. Mae’r rheiny’n cynnwys y pensiwn cyntaf i gael ei ddarparu, copi drafft o gytundeb heddwch y Rhyfel Byd Cyntaf, gwisgoedd a llawer mwy. Mae hefyd ystafell ddosbarth o oes Victoria, sy’n mynd â chi yn ôl i wersi caeth yr oes honno. Tu allan, gallwch fwynhau’r ardd brydferth o oes Victoria, a mynd am dro i weld bedd Lloyd George ger afon Dwyfor.

Wedi’i achredu gan VAQAS ac yn Amgueddfa Achredig (safonau amgueddfeydd cenedlaethol)

Cyrraedd yma


Cyfarwyddiadau